Living well with Lymphoedema

We have made these films very carefully with our NHS health care professionals and people living with lymphoedema. All the information has been reviewed and signed off, but of course if you have any concerns you must contact your GP, lymphoedema therapist or consultant in the normal way. Some people say that they wish they could take their lymphoedema therapist home with them to encourage them and remind them how best to manage their symptoms. This is the NEXT BEST THING! The films are also subtitled in Welsh if you would prefer - there's a blue button below that will take you to them instead. Otherwise explore below!

Sarah introduces... films about living well with lymphoedema

Beth yw Lymffoedema?

‘Beth?’ yw e. ‘Pam?’ fi. ‘Ble?’ yn fy nghorff. ‘Sut?’ fydda i’n ymdopi. Mae’r ffilm agoriadol hon yn helpu i roi ateb cyflym i bryderon cleifion sydd newydd gael diagnosis.

Gofal Croen

Mae’r 1af o 4 nodwedd bwysig yn egluro sut mae rhywun yn debygol o gael llid yr isgroen, y ffactorau risg cysylltiedig, a sut i ofalu am y croen er mwyn lleihau’r risgiau hynny.

Cellulitis

Dysgwch mwy am cellulitis a sut i’w adnabod a’i reoli. Byddwch yn cyfarfod â phobl fydd yn gallu dangos ichi sut mae’n edrych a hefyd â grŵp o bobl sy’n dysgu sut orau i reoli achosion ohono sy’n digwydd dro ar ôl tro. Y newyddion da yw y gall hunanreolaeth dda wneud gwahaniaeth go iawn.

Mae’r Athro Keith Harding yn siarad am yr heriau wrth wneud diagnosis. Mae Cymdeithas Lymffoleg Prydain wedi cynhyrchu’r “Llwybr Coesau Coch” hwn i helpu i ddeall sut orau i adnabod a rheoli cyflwr a all edrych yn debyg i cellulitis. Gallai fod yn ddefnyddiol er mwyn ceisio canfod a oes coesau coch neu cellulitis gennych chi neu rywun yr ydych yn gofalu amdano. http://www.medic.video/red-leg-pathway

Yr hwyl o Ymarfer y Corff

Mae’r ail nodwedd bwysig yn egluro sut a pham mae symud y corff yn cadw’r lymff i symud ac yn dangos ymarferion syml i’w gwneud gartref i rannau uchaf ac isaf y corff.

Rhwymynnau Cywasgu

Mae’r drydedd nodwedd bwysig yn egluro sut a pham mae cywasgu yn helpu i leihau’r chwyddo, ac mae gan bobl sydd â phrofiad o rwymynnau cywasgu hanesion difyr i’w rhannu i leihau’r profiad brawychus hwnnw!

Draeniad Lymffatig Syml

Draeniad Lymffatig Syml ar gyfer rhannau isaf y corff
Mae claf sydd â Lymffoedema ar ran isaf y corff yn dysgu sut i hunanddylino drwy Ddraenio Lymffatig Syml er mwyn symud y lymff i ffwrdd o ddraeniau sydd wedi blocio.

Draeniad Lymffatig Syml

Draeniad Lymffatig Syml ar gyfer rhannau uchaf y corff
Mae claf sydd â Lymffoedema ar ran uchaf y corff yn dysgu sut i hunanddylino drwy Ddraenio Lymffatig Syml er mwyn symud y lymff i ffwrdd o ddraeniau sydd wedi blocio.

Bwyta’n Iach

Mae’r ffilm yn mynd o amgylch yr archfarchnad yn edrych am fwydydd iach, fesul grwpiau bwyd, ac yn cynnig rhai cynghorion anodd eu hanghofio!

Lipoedema

Mae’r gwahaniaethau, y tebygrwydd a’r cysylltiadau rhwng Lipoedema a Lymffoedema yn cael eu hegluro mewn modd gonest a diddorol yng nghwmni dwy wraig sydd â’r cyflyrau hyn.

Gwyliau

Animeiddiad bywiog sy’n cyflwyno’r hyn y dylech ac na ddylech ei wneud wrth ofalu am y croen a rhwymynnau cywasgu ar wyliau.

Dosbarth ymarfer corff rhan isaf y corff

Dosbarth ymarfer corff wedi’i gynllunio ar gyfer cleifion â Lymffoedema ar ran isaf y corff.

Dosbarth ymarfer corff rhan uchaf y corff

Dosbarth ymarfer corff wedi’i gynllunio ar gyfer cleifion â Lymffoedema ar ran uchaf y corff.

Therapi Pwmp (IPC)

3 chlaf sy’n defnyddio therapi pwmp fel rhan o’u triniaeth ar gyfer lymffoedema

MLD ar waith

Yma cewch weld beth sy’n digwydd o dan y croen pan fyddwch yn gwneud Draeniad Lymffatig â’r Dwylo (MLD). Mae arbenigwyr gofal lymffoedema yn dod ynghyd o bob rhan o’r DU i weld technoleg sganio ar waith. Mae’n agoriad llygad iddyn nhw ac i’w cleifion.

Please fill in the feedback form. It won't take long we promise!!

Scroll to top